OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2015 Rhif 88 (Cy. 7)
AFON, CYMRU
PYSGODFEYDD EOGIAID A DŴR CROYW
Gorchymyn Gwahardd Cadw neu Ollwng Pysgod Byw (Rhywogaethau Penodedig) (Cymru) 2015
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae erthygl 3(1) yn gwahardd cadw neu ollwng yng Nghymru, heb drwydded a ddyroddwyd o dan Ddeddf Mewnforio Pysgod Byw (Cymru a Lloegr) 1980 (“y Ddeddf”), unrhyw rywogaethau o bysgod dŵr croyw anfrodorol byw, neu wyau byw pysgod o’r fath, sy’n perthyn i’r urddau tacsonomaidd a restrir yn y tabl yn Rhan 1 o’r Atodlen.
Nid yw’r Gorchymyn hwn yn gymwys pan fo gan berson drwydded i gyflwyno’r pysgod hynny o dan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 708/2007 ynghylch defnyddio rhywogaethau estron a rhai sy’n absennol yn lleol mewn dyframaethu neu pan fo hysbysiad wedi ei gyflwyno sy’n caniatáu i berson symud y pysgod hynny o dan Reoliadau Rhywogaethau Estron a Rhywogaethau sy’n Absennol yn Lleol mewn Dyframaethu (Cymru a Lloegr) 2011 (O.S. 2011/2292 (erthygl 1(4)). Yn ogystal, nid yw’r Gorchymyn hwn yn gymwys i gadw neu ollwng pysgod byw mewn dyfroedd mewndirol (erthygl 1(5)). Nid yw’r gwaharddiad yn erthygl 3(1) yn gymwys mewn perthynas â physgod a restrir yn y tabl yn Rhan 2 o’r Atodlen (erthygl 3(2)).
Mae’n drosedd o dan adran 3 o’r Ddeddf i unrhyw berson gadw neu ollwng unrhyw un neu ragor o’r rhywogaethau o bysgod a restrir yn Rhan 1 o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn heb drwydded ddilys. Mae adran 3 hefyd yn ei gwneud yn drosedd i fynd yn groes i delerau trwydded. Mae person sy’n cyflawni’r troseddau yn adran 3 yn atebol, ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw’n fwy na lefel 4 ar y raddfa safonol.
Mae erthygl 4 o’r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Gwahardd Cadw neu Ollwng Pysgod Byw (Rhywogaethau Penodedig) 1998 (O.S. 1998/2409) (“Gorchymyn 1998”) o ran Cymru. Mae hefyd yn dirymu Gorchymyn Gwahardd Cadw neu Ollwng Pysgod Byw (Rhywogaethau Penodedig) (Diwygio) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/416 (Cy. 60)) a rheoliad 29 o Reoliadau Rhywogaethau Estron a Rhywogaethau sy’n Absennol yn Lleol mewn Dyframaethu (Cymru a Lloegr) 2011 (O.S. 2011/2292) (“Rheoliadau 2011”), yr oeddent ill ddau yn diwygio Gorchymyn 1998. Dirymwyd Gorchymyn 1998, Gorchymyn Gwahardd Cadw neu Ollwng Pysgod Byw (Rhywogaethau Penodedig) (Diwygio) (Lloegr) 2003 (O.S. 2003/25) a rheoliad 29 o Reoliadau 2011 o ran Lloegr gan Orchymyn Gwahardd Cadw neu Ollwng Pysgod Byw (Rhywogaethau Penodedig) (Lloegr) 2014 (O.S. 2014/143).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2015 Rhif 88 (Cy. 7)
AFON, CYMRU
PYSGODFEYDD EOGIAID A DŴR CROYW
Gorchymyn Gwahardd Cadw neu Ollwng Pysgod Byw (Rhywogaethau Penodedig) (Cymru) 2015
Gwnaed 28 Ionawr 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad
Cenedlaethol Cymru 2 Chwefror 2015
Yn dod i rym 27 Chwefror 2015
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972([1]) o ran mesurau sy’n ymwneud â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd([2]).
Mae Gweinidogion Cymru, yn unol ag adran 1(2) o Ddeddf Mewnforio Pysgod Byw (Cymru a Lloegr) 1980([3]) (“y Ddeddf”) (“the Act”) wedi ymgynghori â Chorff Adnoddau Naturiol Cymru a Natural England ac unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol, ac maent o’r farn y gallai’r rhywogaethau o bysgod byw, neu wyau byw pysgod, y mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys iddynt gystadlu yn erbyn, dadleoli, ysglyfaethu neu niweidio cynefin unrhyw bysgod dŵr croyw, pysgod cregyn neu eogiaid yng Nghymru a Lloegr.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 1(1) o’r Ddeddf, ac sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy([4]), ac adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gwahardd Cadw neu Ollwng Pysgod Byw (Rhywogaethau Penodedig) (Cymru) 2015 a daw i rym ar 27 Chwefror2015.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Mae erthygl 4(c) yn gymwys o ran Cymru ac mae i “Cymru” (“Wales”), at ddibenion y paragraff hwn yn unig, yr un ystyr ag a roddir i “Wales” yn rhinwedd adran 158(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006([5]).
(4) Nid yw’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran cyflwyno unrhyw bysgod byw gan berson –
(a) y dyroddwyd trwydded iddo o dan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 708/2007([6]) o ran defnyddio rhywogaethau estron a rhywogaethau sy’n absennol yn lleol mewn dyframaethu, neu
(b) y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan reoliad 7(2)(b) neu (3)(b) (hysbysiadau sy’n caniatáu symud) o Reoliadau Rhywogaethau Estron a Rhywogaethau sy’n Absennol yn Lleol mewn Dyframaethu (Cymru a Lloegr) 2011([7]).
(5) Nid yw’r Gorchymyn hwn yn gymwys i gadw neu ollwng pysgod byw mewn dyfroedd mewndirol.
Dehongli
2. Yn y Gorchymyn hwn —
mae i “dyfroedd mewndirol” (“inland waters”) yr un ystyr ag yn adran 221 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991([8]) ond nad ydynt yn cynnwys pyllau gerddi sy’n llai na 0.4 hectar o faint, nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer pysgota, nad oes ganddynt gysylltiadau â dyfroedd eraill ac sydd wedi eu lleoli o fewn cwrtil eiddo preswyl; ac
ystyr “pysgod dŵr croyw” (“freshwater fish”) yw unrhyw bysgod sy’n byw, neu’n gallu byw, mewn dŵr croyw.
Gwahardd cadw neu ollwng pysgod neu wyau penodedig
3.—(1) Ni chaiff neb, ac eithrio o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan Weinidogion Cymru, gadw neu ollwng unrhyw bysgod dŵr croyw byw, neu wyau byw unrhyw bysgod dŵr croyw–
(a) sy’n perthyn i urdd dacsonomaidd a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl yn Rhan 1 o’r Atodlen; a
(b) nad ydynt yn frodorol i Gymru a Lloegr.
(2) Nid yw’r gofyniad am drwydded ym mharagraff (1) yn gymwys o ran unrhyw rywogaethau o bysgod anfrodorol a bennir yn nhrydedd golofn y tabl yn Rhan 2 o’r Atodlen ac sy’n perthyn i urdd dacsonomaidd y cyfeirir ati ym mharagraff (1).
Dirymiadau
4. Dirymir y canlynol—
(a) Gorchymyn Gwahardd Cadw neu Ollwng Pysgod Byw (Rhywogaethau Penodedig) (Diwygio) (Cymru) 1998([9]);
(b) Gorchymyn Gwahardd Cadw neu Ollwng Pysgod Byw (Rhywogaethau Penodedig) (Diwygio) (Cymru) 2003([10]); ac
(c) rheoliad 29 o Reoliadau Rhywogaethau Estron a Rhywogaethau sy’n Absennol yn Lleol mewn Dyframaethu (Cymru a Lloegr) 2011([11]).
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
28 Ionawr 2015
Rhestr o Bysgod
RHAN 1
Urddau tacsonomaidd y mae unrhyw rywogaethau o bysgod dŵr croyw nad ydynt yn frodorol i Gymru a Lloegr yn perthyn na chaniateir eu cadw na’u gollwng heb drwydded
Urdd dacsonomaidd |
Enw cyffredin |
Acipenseriformes |
Styrsiwn, Pysgod Sbodol |
Amiiformes |
Morgwn |
Anguilliformes |
Llysywod |
Atheriniformes |
Pysgod Ystlys Arian |
Batrachoidiformes |
Môr-lyffaint |
Beloniformes |
Môr-nodwydd, Pysgodyn hedegog |
Ceratodontiformes |
Pysgod ysgyfeiniog |
Characiformes |
Tetrâu, Characiniaid, Pensafwyr |
Clupeiformes |
Penwaig, Brwyniaid, Gwangod |
Cypriniformes |
Carp, Gwrachod, Pilcod |
Cyprinodontiformes |
Pysgod abwyd |
Esociformes |
Penhwyaid |
Gasterosteiformes |
Crethyll |
Gonorynchiformes |
Kneriidae |
Gymnotiformes |
Llafnbysg |
Lepidosyreniformes |
Pysgod ysgyfeiniog De Americanaidd ac Affricanaidd |
Lepisosteiformes |
Môr-nodwyddau neu Gornbigau |
Myliobatiformes |
Morgathod duon |
Osmeriformes |
Brwyniaid Conwy |
Osteoglossiformes |
Arapaimaod |
Perciformes |
Draenogiaid, Glöynnod y môr, Ciclidau, Tiwnaod |
Percopsiformes |
Draenogiaid brithion, Pysgod ogof |
Petromyzontiformes |
Llysywod pendoll |
Pleuronectiformes |
Lledod mwd a Lledod chwithig |
Polypteriformes |
Cyrsbysg |
Salmoniformes |
Eogiaid, Brithyllod, Powaniaid |
Scorpaeniformes |
Pysgod dreiniog, Sgorpioniaid |
Siluriformes |
Morfleiddiaid |
Synbranchiformes |
Llysywod pigog |
Syngnathiformes |
Pibellau môr, Morfeirch |
Tetraodontiformes |
Chwyddbysgod |
RHAN 2
Rhywogaethau o bysgod nad ydynt yn frodorol i Gymru a Lloegr y caniateir eu cadw neu eu gollwng heb drwydded
Urdd dacsonomaidd |
Enw cyffredin |
Enw’r rhywogaeth |
Cypriniformes |
Carp a phob amrywiaeth ohono |
Cyprinus carpio |
Pysgod aur a phob amrywiaeth ohonynt |
Carassius auratus |
|
Orffod |
Leuciscus idus |
|
Salmoniformes |
Brithyllod seithliw, ac eithrio’r Brithyllod Arian Esgynnol |
Oncorhynchus mykiss ac eithrio’r Brithyllod Arian Esgynnol |
([1]) 1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) ac adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o’r Atodlen iddi.
([3]) 1980 p. 27; diwygiwyd adran 132 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (p. 43) a pharagraff 8 o Atodlen 9 iddi, adran 105(1) o Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (p. 16) a pharagraff 62 o Atodlen 11 iddi, adran 37(2) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p. 29), rheoliad 45 o O.S. 2009/463 a pharagraff 5 o Atodlen 2 iddo, ac erthygl 4(1) o O.S. 2013/755 (Cy. 90) a pharagraff 158 o Rhan 1 o Atodlen 2 iddo.
([4]) Yn rhinwedd erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo, trosglwyddwyd swyddogaethau sy’n arferadwy o ran Cymru o dan adran 1 o’r Ddeddf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (fel y’i cyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38)) yn gydredol ag unrhyw Weinidog y Goron y maent yn arferadwy ganddo. Trosglwyddwyd y swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.